Datganiad hygyrchedd ar gyfer Ad-dalu a rheoli arian budd-dal sy’n ddyledus gennych
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar gyfer prif wefan GOV.UK ar wahân.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth Ad-dalu a rheoli arian budd-dal sy’n ddyledus gennych.
Defnyddio'r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau drwy ddefnyddio gosodiadau eich porwr neu ddyfais
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio drwy’r mwyafrif o’r gwasanaeth gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y mwyafrif o’r gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud y cynnwys yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- mae rhai labeli ar gyfer mewnbynnau yn eithaf hir. Mewn rhai meddalwedd adnabod llais, fel macOS Voice Control neu Windows Speech Recognition, gall fod yn anodd dewis y mewnbynnau hyn yn ôl enw. Gall fod yn haws defnyddio gorchmynion "dangos rhifau"
Adborth a manylion cyswllt
Os byddwch yn cael anhawster defnyddio’r gwasanaeth, cysylltwch â ni drwy ffonio:
Os ydych yn byw ym Mhrydain Fawr:
- Ffôn: 0800 158 5519
- Ffôn testun: 0800 916 0651
- NGT text relay – os na allwch glywed na siarad dros y ffôn 18001 yna 0800 158 5519
- Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233
- Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7:30pm (ar gau ar wyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau ym Mhrydain Fawr (yn agor mewn tab newydd)
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon:
- Ffôn: 0800 587 1322
- Ffôn testun: 0800 587 2986 (ar gyfer defnyddwyr byddar neu drwm eu clyw a chwsmeriaid gydag anawsterau lleferydd)
- Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am to 4pm (ar gau ar wyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau yng Ngogledd Iwerddon (yn agor mewn tab newydd)
Fel rhan o ddarparu'r gwasanaeth hwn, efallai y byddwn angen anfon negeseuon neu ddogfennau atoch. Byddwn yn gofyn i chi sut rydych am i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch, ond cysylltwch â ni os byddwch eu hangen mewn ffurf gwahanol. Er enghraifft print bras, recordiad sain neu braille.
Proses orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrch Cyrff Sector Cyhoeddus 2018 (Gwefannau a Chymhwysiadau Symudol) (Rhif 2) (“y rheoliadau hygyrchedd”). Os na fyddwch yn fodlon o ran sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â’r Equality Commission for Northern Ireland (ECNI).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae'r DWP wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018 (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2).
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llawn â fersiwn 2.2 Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 24 Hydref 2024. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 24 Hydref 2024.
Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ym mis Hydref 2024 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA.
Cynhaliwyd y prawf gan dîm Ad-dalu a rheoli arian budd-dal sy’n ddyledus gennych yr Adran Gwaith a Phensiynau. Profwyd y tudalennau yr edrychwyd arnynt fwyaf gan ddefnyddio offer profi awtomataidd gan ein tîm gwasanaeth. Cynhaliwyd archwiliad pellach o'r wefan i safon WCAG 2.2 AA.